P-06-1253 Gwahardd rasio milgwn yng Nghymru
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Hope Rescue, ar ôl casglu cyfanswm o 35,101 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Yng Nghymru, mae gennym un trac rasio milgwn annibynnol sy’n cynnal rasys unwaith yr wythnos. Ers mis Ebrill 2018, mae Hope Rescue a’u partneriaid achub wedi derbyn bron 200 o filgwn dros ben o'r trac hwn, ac roedd 40 o’r rhain wedi dioddef anafiadau. Mae cynlluniau ar waith i’r trac ymuno â Bwrdd Milgwn Prydain Fawr, a fyddai’n arwain at gynnal rasys bedair gwaith yr wythnos a chynnydd sylweddol yn nifer y cŵn dros ben ac anafiadau. Mae rasio milgwn yn greulon yn ei hanfod, a phrin yw’r warchodaeth gyfreithiol sydd gan filgwn. Mae eisoes wedi'i wahardd ym 41 o daleithiau UDA.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Mae grwpiau ymgyrchu wedi casglu data a thystiolaeth o lefelau lles gwael yn rasys milgwn y DU.
Alliance Against Greyhound Racing: https://www.aagr.org.uk/category/why-is-greyhound-racing-cruel/
Y Gynghrair yn Erbyn Chwaraeon Creulon: https://www.league.org.uk/greyhound-racing
Cafwyd erthyglau yn y wasg hefyd ac ymchwiliadau cudd i rasio milgwn hefyd:
RTE Investigates: Greyhounds Running For Their Lives
https://www.youtube.com/watch?v=ZYTb2qBjlMM
Panorama investigates: Doping and rigging bets
https://www.youtube.com/watch?v=I0p0bHSkIAk
https://www.mirror.co.uk/news/uk-news/greyhounds-being-shipped-pakistan-illegal-23765480
https://www.thesun.co.uk/news/13086085/british-greyhounds-racing-dogs-mass-graves-bolt/
Bydd deiseb ddiweddar yn cael ei thrafod yn Senedd y DU ar ôl iddi gasglu 104,882 o lofnodion.
https://petition.parliament.uk/petitions/554073
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
· Ogwr
· Gorllewin De Cymru